Huna blentyn ar fy mynwes Clyd a chynnes ydyw hon Breichiau mam sy'n dynn amdanat Cariad mam sy dan fy mron Ni chaiff dim amharu'th gyntun Ni wna undyn â thi gamin Huna'n dawel,annwyl blentyn Huna'n fwyn ar fron dy fam Huna'n dawel,heno,huna Huna'n fwyn,y tlws ei lun Pam yr wyt yn awr yn gwenu Gwenu'n dirion yn dy hun Ai angylion fry sy'n gwenu Arnat ti yn gwenu'n llon Tithau'n gwenu'n ôl dan huno Huno'n dawel ar fy mron Paid ag ofni,dim ond deilen Gura, gura ar y ddôr Paid ag ofni,ton fach unig Sua,sua ar lan y môr Huna blentyn,nid oes yma Ddim i roddi iti fraw Gwena'n dawel yn fy mynwes Ar yr engyl gwynion draw