Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Tros ryddid gollasant eu gwaed. Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau. Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed, Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad.