Nid wy'n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na'i berlau man; Gofyn wyf am galon hapus, Calon lan onest ,calon lan. Calon lan yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dols; Dim ond calon lan all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos . ....... Pe dymunwn olud bydol, Hedyn buan ganddo sydd; Golud calon lan , rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. Calon lan yn llaw daioni, Tecach yw na'r lili dlos; Dim ond calon lan all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. ....... Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i'r nef ar adain can Ar i Dduw , er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lan. Calon lan yn llaw daioni, Tecach yw na'r lili dlos; Dim ond calon lan all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos.